Cynulliad Cenedlaethol Cymru / National Assembly for Wales

 

Y Pwyllgor Busnes / Business Committee

 

Etifeddiaeth y Pedwerydd Cynulliad / Fourth Assembly Legacy

 

Tystiolaeth gan Lywodraeth Cymru / Evidence from the Welsh Government

 

Ymateb Llywodraeth Cymru i gais am dystiolaeth y Pwyllgor Busnes - Adroddiad etifeddiaeth ar gyfer y Pumed Cynulliad

 

 

Mae Llywodraeth Cymru yn croesawu'r cyfle i roi sylwadau ar y cais am dystiolaeth cychwynnol hwn ac mae'n edrych ymlaen at drafodaeth bellach ynghylch yr ymatebion a dderbyniwyd yn ehangach ar yr adeg briodol.

 

 

 

C1. Yn ystod y Cynulliad presennol, mae'r Llywydd a'r Pwyllgor Busnes wedi cyflwyno nifer o ddiwygiadau gweithdrefnol, gan gynnwys newid y dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno Cwestiynau Llafar y Cynulliad, cyflwyno Dadleuon Aelodau Unigol rheolaidd, a chwestiynau arweinwyr a llefarwyr y pleidiau.

 

·         Pa effaith a gafodd y diwygiadau hyn o ran galluogi Aelodau i gynrychioli eu hetholwyr a dwyn y Llywodraeth i gyfrif?

 

 

Cwestiynau

 

Mae'r newidiadau a wnaed i'r amserlenni ar gyfer cyflwyno Cwestiynau Llafar y Cynulliad wedi rhoi llawer mwy o gyfle i Aelodau gyflwyno cwestiynau sy’n fwy perthnasol ac amserol. Fodd bynnag, mae yna gwestiynau sy'n gyffredinol eu natur, ac nad ydynt yn amserol iawn, yn dal i gael eu cyflwyno gan Aelodau Cynulliad. Gellid gwneud mwy i roi cyngor a chymorth i Aelodau lunio cwestiynau sy'n bodloni'r meini prawf. Byddai cwestiynau cychwynnol ag iddynt fwy o ffocws hefyd o fudd i'r Aelodau gael atebion mwy perthnasol.

 

Mae'r Llywodraeth yn cydnabod pryderon aelodau meinciau cefn ynghylch yr effaith y mae cwestiynau arweinwyr a llefarwyr y pleidiau yn ei chael ar gyfyngu ar y cyfleoedd i aelodau meiniciau cefn o bob plaid holi cwestiynau. Fel isafswm, byddem yn cefnogi awgrymiadau na ddylai arweinwyr a llefarwyr y gwrthbleidiau sy'n cael y cyfleoedd hyn gael holi cwestiynau fel aelodau unigol hefyd.

 

Mae'r Llywodraeth yn ystyried bod angen adolygu'r broses ar gyfer Cwestiynau Brys. Dylid parchu penderfyniad y Llywydd ond mae diffyg eglurder ymhlith yr Aelodau a'r Llywodraeth ynghylch y meini prawf ar gyfer derbyn Cwestiynau Brys.

 

Dadleuon Aelodau Unigol

 

Mae cyflwyno Dadleuon Aelodau Unigol rheolaidd wedi cael effaith gadarnhaol ar amrywiaeth y dadleuon yn y Cynulliad, a pha mor amserol ydynt; mae materion ehangach yn cael eu hystyried yn y Siambr ond maent yn dal i fod yn berthnasol i'r mwyafrif. Dylai'r Pwyllgor Busnes barhau i chwarae rôl i gytuno ar y cynigion y dylid cynnal dadleuon yn eu cylch ond dylai'r pleidiau wneud mwy i sicrhau bod pynciau addas yn cael eu cyflwyno ar gyfer dadleuon.

 

 

C2. Am y tro cyntaf, mae strwythur pwyllgorau'r Pedwerydd Cynulliad wedi cyfuno craffu ar bolisi a chraffu deddfwriaethol o fewn yr un pwyllgorau.

 

·         Pa mor effeithiol y mae'r dull hwn wedi bod a sut mae'r pwyllgorau wedi sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith craffu ar bolisi, craffu ariannol a chraffu deddfwriaethol?

·         Pa newidiadau y gellid eu gwneud i faint a strwythur pwyllgorau yn y dyfodol i'w gwneud yn fwy effeithiol?

 

 

 

Mae newid i swyddogaeth pwyllgorau sy'n cyfuno polisi a deddfwriaeth yn ystod y Pedwerydd Cynuliad wedi bod yn llwyddiannus ar y cyfan. Mae'r wybodaeth am bwnc sydd wedi'i meithrin gan aelodau unigol pwyllgorau ar draws y pleidiau wedi bod yn fuddiol yn ystod y camau craffu ar rai darnau arbennig o gymhleth o ddeddfwriaeth.

 

Fodd bynnag, bu yna faterion capasiti o ran amserlennu deddfwriaeth, yn arbennig ar gyfer y pwyllgorau hynny sydd â'r nifer mwyaf o Filiau yn rhan o'u cylch gwaith, fel y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol.

 

Pe byddai yna newid i bwyllgorau â llai o aelodau, byddai pob aelod yn gallu gofyn cyfresi o gwestiynau a chwestiynau dilynol mwy estynedig a chydlynol, gan wella ansawdd y craffu. Gallai aelodau hefyd baratoi'n well ar gyfer craffu pwyllgorau pe byddai llai o gyfarfodydd ganddynt i’w mynychu.

 

 

Cafodd y trefniadau ar gyfer craffu ar y gyllideb ddrafft eu datblygu mewn partneriaeth â'r Pwyllgor Cyllid. Fodd bynnag, mae'r Llywodraeth yn cydnabod y bydd angen cyfaddawdu bob amser â phwyllgorau er mwyn cynnal cydbwysedd rhwng yr angen i gael digon o amser ar gyfer craffu'n effeithiol a bodloni amserlen y Llywodraeth ar gyfer y gyllideb a'r gofynion ar gyfer gosod y gyllideb derfynol.

 

 


 

C3. Y Pwyllgor Busnes sy'n gyfrifol am bennu amserlen y Cynulliad, gan gynnwys amserlennu cyfarfodydd y pwyllgorau. Ar hyn o bryd, cynhelir y Cyfarfod Llawn ar brynhawn Mawrth a phrynhawn Mercher, gyda phwyllgorau yn cwrdd yn bennaf ar fore Mawrth a bore Mercher a dydd Iau.

 

·         A yw amserlen bresennol y Cynulliad, gan gynnwys strwythur yr wythnos waith a sesiynau'r pwyllgorau / Cyfarfod Llawn yn sicrhau'r cydbwysedd cywir o ran y defnydd o amser y Cynulliad, a chaniatáu iddo gyflawni ei swyddogaethau'n effeithiol o ran deddfu, cynrychioli pobl Cymru a dwyn y Llywodraeth i gyfrif?

 

 

Mae'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol wedi ystyried y mater hwn a bydd y Llywodraeth yn ymateb i'r adolygiad hwnnw ar wahân.

 

Fel y cânt eu drafftio ar hyn o bryd, mae diffyg hyblygrwydd mewn Rheolau Sefydlog o ran amserlennu Busnes y Llywodraeth cyn toriadau. Gan fod rhaid i gynigion ar gyfer dadleuon ymddangos yn y Datganiad Busnes, a rhaid i gynnig gael ei gyflwyno 5 diwrnod gwaith ymlaen llaw, mae'n ofynnol i'r Llywodraeth restru cynigion ar gyfer dadleuon cyn unrhyw doriad. Yn achos y Pasg a'r haf, yn y drefn honno, mae hyn yn golygu cyflwyno dadleuon ryw 4 neu 9 wythnos ymlaen llaw.

 

Byddai'r hyblygrwydd i ychwanegu cynigion i’r Datganiad Busnes wythnos cyn dadl, hyd yn oed yn ystod toriad, yn adlewyrchu'r trefniadau presennol ar gyfer trefnu busnes y gwrthbleidiau. Enghraifft arall yw cyflwyno cynigion ar gyfer dadleuon ar Gam 4 Bil, pan fo Rheol Sefydlog yn caniatáu i gynnig gael ei gyflwyno ddiwrnod cyn dadl. Fodd bynnag, rhaid rhestru cynnig yn y Datganiad Busnes hyd at bythefnos ymlaen llaw os yw'n dod yn union cyn neu ar ôl toriad.

 

 

 

C4. Y Pwyllgor Busnes sy'n gyfrifol am sefydlu amserlenni ar gyfer pwyllgorau i ystyried Biliau a Chynigion Cydsyniad Deddfwriaethol, yn unol â'r Rheolau Sefydlog.

 

·         A yw'r prosesau presennol ar gyfer amserlennu deddfwriaeth - gan gynnwys Biliau a Chynigion Cydsyniad Deddfwriaethol - yn caniatáu ar gyfer craffu priodol ac ymgysylltu gan Aelodau a rhanddeiliaid? A ellid eu gwneud yn fwy effeithiol?

 

 

Mae'r Llywodraeth yn fodlon â'r broses ar gyfer amserlennu Biliau ac mae'n ceisio gweithio gyda'r Pwyllgor Busnes a'r Pwyllgorau Craffu wrth amserlennu deddfwriaeth. Mae rhai pwyllgorau yn gallu dod o dan bwysau yn achlysurol o ganlyniad i'r llwyth gwaith yn eu meysydd penodol ac mae'r awgrymiadau fel ymateb i gwestiwn 2 yn gwneud rhywfaint i liniaru'r effaith honno. Yn y pen draw, mater ar gyfer y pwyllgorau, gan ymgynghori â'r Pwyllgor Busnes, yw sut i oresgyn materion amserlennu wrth ymarfer.

 

 

O ran Cynigion Cydsyniad Deddfwriaethol, mae amserlenni Biliau Seneddol y DU y maent yn berthnasol iddynt y tu hwnt i reolaeth Llywodraeth Cymru, wrth reswm. Gall gwelliannau hwyr i Filiau Seneddol mewn meysydd sydd wedi'u datganoli, yn arbennig, gwtogi ar yr amser a fydd ar gael i'r Cynulliad graffu ar y Cynigion Cydsyniad Deddfwriaethol sy'n berthnasol i'r gwelliannau hynny. Mae hyn oherwydd na ellir gosod y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol hyd nes y bydd y gwelliannau wedi cael eu cyflwyno yn y Senedd. Os digwydd hyn yn hwyr yn ystod hynt y Bil drwy'r Senedd, gallai olygu mai ychydig iawn o amser fydd ar gael i'r Cynulliad graffu cyn y cam diwygio olaf yn y Senedd.

 

Mae'r broses a'r ffordd y mae Cynigion Cydysyniad Deddfwriaethol yn cael eu trafod rhwng y Llywodraeth, y Pwyllgor Busnes a Phwyllgorau'r Cynulliad wedi gwella yn ystod y Pedwerydd Cynulliad. I'r perwyl hwn, mae'r Llywodraeth yn fodlon â'r broses bresennol ar gyfer craffu gan bwyllgorau ar Gynigion Cydsyniad Deddfwriaethol.

 

 

 

 

C5. Yn wahanol i bwyllgorau cyfatebol mewn llawer o deddfwrfeydd eraill, mae Pwyllgor Busnes y Cynulliad yn cyfuno'r swyddogaeth o amserlennu busnes y Cynulliad gyda swyddogaethau 'pwyllgor gweithdrefnau' sy'n gyfrifol am ystyried a chynnig newidiadau i Reolau Sefydlog a gweithdrefnau'r Cynulliad.

 

·         Beth yw manteision ac anfanteision y rôl ddeuol hon, ac a oes achos dros ei hadolygu?

 

 

Mae'r Llywodraeth yn fodlon â'r trefniadau presennol.